Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau

Gall unrhyw un sy’n gwirfoddoli neu’n methu gweithio gartref nawr gael profion cyflym am ddim wedi’u hanfon i’w cartref i atal lledaeniad coronafeirws.

I dawelu eich meddwl, cymerwch brawf ddwywaith yr wythnos.

Archebwch nawr: llyw.cymru/cael-profion-l

Nid yw tua 1 o bob 3 o bobl sydd â’r coronafeirws yn dangos unrhyw symptomau, ond mae’n dal yn bosibl iddynt heintio eraill.

Yr unig ffordd o wybod a oes gennych chi’r feirws ai peidio yw cael profion rheolaidd. Os bydd pobl yn cael canlyniad prawf positif ac yn hunanynysu, mae’n helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

Mae profion llif unffordd cyflym ar gyfer pobl heb symptomau coronafeirws.