Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Sir Gâr yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn ail-frandio ac yn newid ein henw elusennol i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru ar y 1af o Ebrill 2021. Mae’r rheswm dros yr ail-frandio hwn yn syml: ar hyn o bryd rydym yn gweithredu o dan enwau amrywiol trwy ymuno ac wrth ennill contractau newydd dros sawl blwyddyn.
Dechreuon ni fel dau gynllun Croesffyrdd ar wahân sef Croesffyrdd Llanelli / Cwm Gwendraeth a Chroesffyrdd Caerfyrddin / Dinefwr yn darparu gofal rheoledig i ofalwyr i’w galluogi i gael seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu. Ymunodd y ddau gynllun yn 2007 i ffurfio Croesffyrdd Sir Gâr.
Dyfarnwyd y contract i’r sefydliad ddarparu gwybodaeth a chymorth allgymorth i ofalwyr ledled Sir Gaerfyrddin yn 2014 trwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr.
Yn 2018, daethom ynghyd â’n cydweithwyr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gogledd Cymru a Chredu i ffurfio consortiwm ‘Gofalwyr Ceredigion Carers’ i ehangu ein cynnig o ofal rheoledig i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr.
Rydyn ni nawr yn teimlo bod yr amser yn iawn i newid i enw newydd sy’n adlewyrchu pwy ydyn ni, beth rydyn ni’n ei wneud a’n huchelgais; i gefnogi gofalwyr o bob oed ledled rhanbarth Gorllewin Cymru.
Ni fydd y gefnogaeth a gewch gennym yn newid o gwbl, yr unig wahaniaeth fydd ein henw newydd, y newid i’n brand a’n swyddfa gofrestredig yn newid i:
Uned 3 Y Palms, 96 Ffordd y Frenhines Fictoria, Llanelli, SA15 2TH.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn, anfonwch e-bost atom at crossroads@carmarthenshirecarers.org.uk.
O 1af o Ebrill ymlaen ewch i’n gwefan www.ctcww.org.uk
Diolch i chi o flaen llaw am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod pontio cyffrous hwn i’n sefydliad.