Mae Mis y Gymuned yn digwydd mis Mehefin hon, ac yn gyfle i ddathlu cysylltiadau cymunedol a dod i adnabod ein gilydd ychydig yn well. Mae’n syniad gan Gymunedau Eden Project, y bobl y tu ôl Y Cinio Mawr, sydd wedi ymuno ag achosion da ledled y DU i ddathlu haf 2021 gyda #MisYGymuned.
Y Cinio Mawr yw dyddiad mawr blynyddol y DU i ddathlu a diolch i’n cymdogion a’n cymunedau. Eleni bydd Wythnos y Gwirfoddolwyr a’r Cinio Mawr yn cychwyn haf llawn cymuned, cyfeillgarwch a hwyl. Mae yna fwy o resymau nag erioed i ddod at ein gilydd eleni, felly beth am ddathlu a dweud diolch i’ch cymuned gan…
- Dweud diolch i wirfoddolwyr y genedl ar Wythnos Gwirfoddolwyr 1-7 Mehefin
- Gwerthfawrogi natur ar Wythnos Natur Cymru 29 Mai -6 Mehefin
- Cysylltu â’n cymunedau dros Y Cinio Mawr 5-6 Mehefin
- Dod i adnabod ein cymdogion ar Wythnos Gwylio Cymdogaeth 5-11 Mehefin
- Dathlu gofalwyr di-dâl ar Wythnos Gofalwyr 7-13 Mehefin
- Deall unigrwydd a chefnogi pobl ar Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd 14-18 Mehefin
- Sicrhau fod croeso i bawb ar Wythnos Ffoaduriaid 14-20 Mehefin
- Codi arian i elusennau lleol ar Wythnos Elusennau Bach 14-19 Mehefin
- Dangos fod gennym ni fwy yn gyffredin ar The Great Get Together 18-20 Mehefin
- Neu ddweud diolch ar Ddiwrnod Diolch 4 Gorffennaf
Rydym yn annog pobl i ymuno ym mha bynnag ffordd sy’n addas i’w cymuned – ar-lein, ar stepen eich drws, dros y ffens, neu o bellter cymdeithasol. Dangosodd ein hymchwil llynedd fod 9 o bob 10 o bobl wedi dweud eu bod angen cysylltiad cymunedol ar yr adeg hon o Coronafeirws. Mae hyd yn oed paned gyda chymydog, neu gwrdd â grŵp cymunedol lleol ar-lein yn dangos gwerth gwirioneddol mewn creu cymunedau mwy cysylltiedig, hapusach.
Felly beth ydych chi’n aros amdano? Darganfyddwch fwy a archebwch becyn Cinio Mawr am ddim i ddechrau at thebiglunch.com neu cysylltwch â Lowri ljenkins@edenproject.com