Hafan » Ymgynghoriad y Fframwaith Cenedlaethol Profedigaeth
Ymgynghoriad y Fframwaith Cenedlaethol Profedigaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Fframwaith Cenedlaethol drafft ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth yng Nghymru (gweler y ddolen we isod) ac mae’n ceisio barn ar sut y gallwn ymateb i’r rhai sydd wedi cael profedigaeth neu sy’n ei wynebu.
Nod y fframwaith yw cefnogi comisiynwyr a darparwyr i ddeall eu cyfrifoldebau er mwyn sicrhau bod gofal profedigaeth a chymorth o ansawdd uchel yn cael eu darparu’n deg ac yn amserol i’r boblogaeth leol. Mae’r fframwaith yn cynnwys:
Safonau profedigaeth cenedlaethol;
Enghreifftiau o fodelau presennol o gymorth profedigaeth;
Dysgu o Covid-19.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Fframwaith Cenedlaethol drafft ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth yng Nghymru yn agored am wyth wythnos o 22 Mawrth ac yn dod i ben ar 17 Mai 2021.
A fyddech cystal â rhannu hyn gydag eraill a fyddai efallai’n hoffi ymateb.
Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio'r safle hwn, byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod yn hapus gyda hyn.