Profiadau gofalwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) di-dâl yng Nghymru

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cynnal astudiaeth o anghenion a phrofiadau gofalwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys arolwg/holiadur traddodiadol, ac amryw o gyfweliadau manwl a grwpiau ffocws. Mae Quality Health, asiantaeth ymchwil gymdeithasol arbenigol, yn cynnal elfennau ymchwil meintiol ac ansoddol mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Y nod yn y pen draw yw trawsnewid y gydnabyddiaeth, y parch a’r gefnogaeth y mae gofalwyr di-dâl BAME yn eu cael mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Er mwyn cyrraedd cymaint o ofalwyr â phosibl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn estyn allan at fudiadau a all helpu. Nod y prosiect yw ymgysylltu â chynifer o ofalwyr â phosibl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Byddem yn hynod ddiolchgar pe gallech ein helpu i ymgysylltu â gofalwyr BAME yng Nghymru mewn perthynas ag unrhyw un o’r canlynol:

  1. Cymryd rhan mewn grŵp ffocws ar-lein (mae tâl cymhelliant o £15 ar gael ar gyfer hyn). Dyma’r brif flaenoriaeth.
  2. Cefnogi’r prosiect i brofi’r holiadur pan fydd wedi cael ei lunio (diwedd Ebrill).
  3. Gofyn i ofalwyr BAME lenwi’r holiadur mewn cyd-destun ‘bywyd go iawn’ pan fydd yn cael ei lansio ym mis Mehefin.

 

Mwy o wybodaeth