Helpu i lunio dyfodol y Trydydd Sector
Mae’r sector gwirfoddol a chymunedol wedi bod yn hanfodol wrth gynnull gwirfoddolwyr ac ateb anghenion lleol yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, fel llawer o adrannau eraill o gymdeithas, mae sefydliadau’r trydydd sector yn wynebu ansicrwydd digyffelyb oherwydd effaith uniongyrchol a thymor hirach COVID-19.
Mae’r pandemig wedi achosi llu o wahanol heriau ond mae hefyd wedi creu cyfleoedd i wneud pethau’n wahanol ac felly, rydym am adolygu’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo gwasanaethau lleol wrth gefnogi’r sector ar ôl COVID-19.
Mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CGGSG) a Chyngor Sir Gâr (CSG) yn rhannu’r awydd i ddatblygu a thyfu’r trydydd sector yn y Sir trwy weithio mewn partneriaeth i drosglwyddo gwasanaethau ymarferol ar gyfer cymunedau yn Sir Gâr sydd eu hangen.
Sut Allwch Chi Helpu
A fyddech cystal â chwblhau’r arolwg byr hwn erbyn 14eg Gorffennaf 2021 i gyfrannu at ddatblygu’r gwaith hwn a dyfodol y trydydd sector yn Sir Gâr.
Bydd yr arolwg hwn yn helpu i lunio dyfodol y gwasanaethau y gallwn eu cynnig i chi.
https://www.surveymonkey.co.uk/r/D8MVPFC
Os ydych eisoes wedi cwblhau’r arolwg, diolch, rydym yn ei werthfawrogi’n fawr.