Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Gwnewch gais am becyn gardd am ddim heddiw

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi ailagor. 

Y llynedd, cafodd mwy na 500 o fannau gwyrdd eu creu, adfer a gwella ledled y wlad. Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob maint ran – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.

Nawr, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae gennym gannoedd yn rhagor o becynnau ar gael. Dyma eich cyfle i wyrdroi dirywiad natur a rhoi hwb pwysig i lesiant eich cymuned leol ar yr un pryd.

Mae pob pecyn, y mae ei gost wedi’i thalu ymlaen llaw, yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau eraill. Byddwn yn ymdrin ag archebion a danfoniadau, a bydd ein swyddogion prosiect yn darparu cymorth ar lawr gwlad hyd yn oed. 

Mae ein pecynnau yn perthyn i ddau gategori.

  1. Pecynnau dechreuol i grwpiau cymunedol neu wirfoddol sy’n dymuno creu Gardd i Beillwyr, Gardd Ffrwythau a Pherlysiau, neu Ardd Drefol.
  2. Pecynnau datblygu i sefydliadau cymunedol sy’n barod i ymgymryd â phrosiect mwy ac adeiladu Gardd Tyfu Bwyd neu Ardd Bywyd Gwyllt.

 

Yn 2021-22, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau mewn ardaloedd difreintiedig, trefol nad oes ganddynt fynediad at natur neu sydd â mynediad cyfyngedig at natur. Rydym hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru.

Mae’n broses ymgeisio syml. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus, dewiswch eich pecyn, darllenwch y canllawiau, a dadlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais.

Rydyn ni’n disgwyl i becynnau fynd yn gyflym, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael eich cais i mewn yn fuan!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – e-bostiwch nature@keepwalestidy.cymru