Cymunedau Cysylltiedig, Hoffai’r tîm Cysylltu â Charedigrwydd yn Sir Gaerfyrddin ddiolch i bawb yn Sir Gaerfyrddin am gyd-dynnu a’i gwneud gymaint yn haws i’w cymunedau ymdopi â’r pandemig. Mae cynifer ohonom wedi cael cymorth a chefnogaeth ac mae gwirfoddolwyr wedi mynd yr ail filltir i helpu eu cyd-ddinasyddion.
Mae’r artistiaid yn eich sir wedi dod at ei gilydd i ddathlu’r caredigrwydd hwn a hoffwn ddiolch iddynt am ddal ysbryd ein cymunedau am byth yn ystod un o’n cyfnodau mwyaf heriol. Byddwch yn gallu gweld eu cyfraniadau, mewn un cludlun, mewn gwahanol leoliadau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin.
Byddwn yn rhannu rhai fideos yr wythnos hon, o’r artistiaid yn esbonio’r hyn a’u hysbrydolodd i gipio’r caredigrwydd yn eu cymunedau, a byddwn ym Mharc Caerfyrddin ddydd Sul 1 Awst i lansio’r prosiect.
Cymunedau Cysylltiedig – Celf Gymunedol:
Artistiaid Cymunedol - fideos
Cymunedau Cysylltiedig – Celf Gymunedol – y lansiad:
Kate – Amgueddfa Wlân Cymru
Janice o Cwmamman:
Craig o Cross Hands:
Copper a Carys o Lanelli:
Marissa o Cwmamman: