Diweddariad amseroedd agor i glinigau cerdded i mewn yng nghanolfanau brechu torfol

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Bydd clinigau cerdded i mewn ar gyfer dos cyntaf ac ail ddos yn parhau i redeg ym mhob canolfan Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Gwiriwch ameroedd agor eich ganolfan lleol yma a galwch mewn i dderbyn eich dos cyntaf, ar gael i bawb dros 18 mlwydd oed, neu os yw’n amser i chi gael eich ail ddos (wyth wythnos ar ôl eich dos cyntaf).

Aberystwyth – Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3AS (agor mewn dolen newydd) – ar gau dydd Llun 19 hyd dydd Mercher 21 Gorffennaf. Clinigau cerdded i mewn ar agor pob diwrnod arall rhwng 10.00am a 7.00pm. Breichlynnau Astrazenceca, Prizer a Moderna ar gael.

Aberteifi – Canolfan Hamdden Teifi SA43 1HG (agor mewn dolen newydd) – ar gau ddydd Llun 19 i ddydd Mercher 21 Gorffennaf. Clinigau cerdded i mewn ar agor pob diwrnod arall rhwng 10.00am a 5.00pm. Nodwch mai Moderna fydd yr unig frechlyn ar gael ar wahan i ddydd Mawrth 20 Gorffennaf pan Pfizer fydd yr unig frechlyn ar gael.

Caerfyrddin, clinig cerdded i mewn – Canolfan Cynhadledd Halliwell, UWTSD, SA31 3EP (agor mewn dolen newydd) – clinigau cerdded i mewn ar agor ddydd Sadwrn 17 rhwng 10.00am a 6.00pm. Brechlynnau Astrazeneca, Pfizer a Moderna ar gael. Bydd y ganolfan ar gael rhwng ddydd Sul 18 Gorffennaf a dydd Sul 25 Gorffennaf.

Caerfyrddin canolfan gyrru drwodd – Maes y Sioe Unedig SA33 5DR (agor mewn dolen newydd) – clinig cerdded i mewn ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 10.00am a 6.00pm. Bydd brechlynnau Astrazeneca a Moderna ar gael.

Hwlffordd – Archifau Sir Benfro, SA61 2PE (agor mewn dolen newydd) – ar gau ddydd Llun 19 a dydd Mercher Gorffennaf am glinigau cerdded i mewn rhwng 9yb a 5yp. Ar agor pob diwrnod arall am glinigau cerdded i mewn rhwng 10.00am a 6.00pm. Bydd brechlynnau Astrazeneca, Pfizer a Moderna ar gael.

Llanelli – Theatr Ffwrnes SA15 3YE (agor mewn dolen newydd) – ar agor 7 diwrnod yr wythnos am glinigau cerdded i mewn rhwng 10.00am a 6.00pm. Bydd brechlynnau Astrazeneca, Pfizer a Moderna ar gael.

Dinbych y Pysgod – Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod, SA70 8EJ (agor mewn dolen newydd) – ar agor dydd Gwener 16 i ddydd Sul 18 Gorffennaf a dydd Gwener 23 i ddydd Sul 25 Gorffennaf am glinigau cerdded i mewn rhwng 10.00am a 4.00pm. Bydd brechlynnau Astrazeneca, Pfizer a Moderna ar gael. 

Nid oes angen cysylltu â’r bwrdd iechyd cyn mynychu clinig cerdded i mewn ond os ydych eisiau trefnu apwyntiad gallwch dal wneud drwy gysylltu â’n tîm llogi ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio  COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Os ydych eisoes wedi cofrestru gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, mae croeso i chi fynychu’r clinig cerdded i mewn ac os oes gennych apwyntiad wedi’i drefnu, cadwch amser eich apwyntiad.

Noder, er bod ymdrech fawr yn cael ei gwneud i sicrhau bod cyflenwad da o’r holl frechlynnau ar gael ym mhob canolfan, os nad yw’r brechlyn sydd ei angen arnoch ar gael, bydd ein staff yn archebu’r sesiwn nesaf sydd ar gael.

Os ydych am gael sicrwydd bod y brechlyn priodol ar gael, cysylltwch â Chanolfan Reoli Hywel Dda cyn teithio i ganolfan.

Rhif ffôn: 0300 303 8322
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Gweler gwefan Hywel Dda

Os byddai’n well gennych drefnu apwyntiad gweler Cais am frechlyn