Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ceisio barn i wella lles lleol

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin (BGC) yn ceisio barn preswylwyr i ddarganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw a’u cymunedau lleol.

Bydd y canlyniadau a gesglir yn helpu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddeall y ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy’n effeithio ar les unigolion a chymunedau yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd y wybodaeth hon yn siapio datblygiad Cynllun Llesiant Lleol Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2023-28.

Bydd y Cynllun yn nodi’r amcanion llesiant i bartneriaid gwasanaeth cyhoeddus wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Barry Liles, Cadeirydd BGC Sir Gaerfyrddin a Dirprwy Is-Ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes), Prifysgol Cymru, y Drindod Saint David: “Rydym am i’n preswylwyr ddweud wrthym sut y gallwn ni, fel gwasanaethau cyhoeddus, helpu i wneud dyfodol gwell i Genedlaethau’r dyfodol trwy gyflawni’r hyn sy’n bwysig i’n cymunedau.”

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor ac Is-gadeirydd y BGC: “Hoffwn annog pawb i gymryd rhan yn yr arolwg gan y bydd hyn yn helpu i siapio’r asesiad llesiant a Chynllun Llesiant Lleol Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2023-28.”

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin yn bartneriaeth o sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella llesiant ledled y sir ac mae’n cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Adnoddau Naturiol Cymru a sefydliadau eraill.

DWEUD EICH DDWEUD – HELPWCH I LUNIO DYFODOL LLESIANT

Mae’r arolwg yn cau ar 8 Hydref 2021.