Arolwg gwydnwch y sector gwirfoddol
Mae CGGC yn edrych ar ffyrdd i helpu i adeiladu a chynnal gwydnwch y sector gwirfoddol yng Nghymru. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae ‘Grow Social Capital’ yn cynnal arolwg i ddeall barn pobl ar ‘wydnwch’ a’u dehongliadau o’r cysyniad hwn.
Rydyn ni’n ceisio ymhél â’r amrediad ehangaf o fudiadau – o rai mawr i rai bach, ar draws amrywiaeth o weithgareddau, ac o bob cwr o Gymru.
Rydym yn awyddus iawn i glywed gan –
- Grwpiau sy’n gweithio gyda chymunedau ethnig amrywiol
- Defnyddwyr Cymraeg
- Ymddiriedolwyr
Nod yr ymchwil hwn yw cael barn gyfunol y sector gwirfoddol ar wydnwch. Bydd hyn yn cyfrannu at ddiffiniad defnyddiol o wydnwch, yn darparu tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio a ddim yn gweithio o ran adeiladu gwydnwch, ac yn llywio gwaith CGGC ar gefnogi’r sector wrth i ni ddod drwy’r pandemig hwn.
Gellir gweld yr arolwg yn https://growsocialcapital.org.uk/dweud-eich-dweud-beth-yw-gwytnwch/