Gwasanaeth Cwnsela Sir Gaerfyrddin: Swyddi Gwag ar gyfer Aelodau Pwyllgor

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mae Gwasanaeth Cwnsela Sir Gaerfyrddin yn elusen gofrestredig sefydledig sy’n darparu gwasanaethau cwnsela ledled Sir Gaerfyrddin.  Darperir ein cyllid gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.  Rheolir yr elusen gan fwrdd ymddiriedolwyr ac rydym yn edrych i gynyddu nifer yr aelodau pwyllgor.  

Rydym am recriwtio trigolion lleol i ddod ag amrywiaeth a phrofiad i’n mudiad.

Rydym yn chwilio am aelodau sydd â diddordeb yn y sector elusennau ac a fydd yn cyfrannu at wneud gwelliannau parhaus i’r ffordd y mae ein gwasanaeth yn cael ei redeg.

Rydym yn cynnal cyfarfodydd bob 6 wythnos ar nos Fawrth rhwng 5.30 a 6.30 trwy Zoom. 

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond diddordeb mewn helpu eich cymuned leol.

I gael gwybod mwy am ymuno â’r bwrdd, cysylltwch â Val neu Jude ar (01554) 899934, gadewch eich manylion a byddwn yn eich ffonio’n ôl.

Gwasanaeth Cwnsela Sir Gaerfyrddin

Rhif Comisiwn Elusennau 1077029