Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

“Sut ydw i’n sicrhau bod gen i weithle cynhwysol?”

“Rwy am i’m staff deimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi ond dw i ddim yn siŵr am beth i’w wneud.”

“Sut ydw i’n cael y person iawn ar gyfer y swydd?”

“Pa effaith fydd y pandemig yn ei chael ar fy musnes a’r staff?”

 

Gall rhwydwaith Llywodraeth Cymru o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl roi cymorth ar yr holl gwestiynau hyn a mwy.

Beth yw e?

Gwasanaeth unigryw am ddim yw hwn i bob cyflogwr yng Nghymru waeth beth fo faint y busnes. Gall yr Hyrwyddwyr gysylltu â chi mewn ffordd sy’n addas i chi a’ch busnes ar sail un-i-un neu mewn cyfarfodydd staff. P’un a ydych chi am gyflwyno talent newydd i’ch tîm, cadw staff presennol sydd wedi mynd yn anabl, neu am sicrhau bod eich gweithle a’ch polisïau Adnoddau Dynol yn gynhwysol, gall yr Hyrwyddwyr helpu. Gallan nhw roi cyngor ar recriwtio cynhwysol a chymorth ariannol, yn ogystal â rhoi cyngor ymarferol ar gadw staff.

Sut fydda’ i’n elwa o hyn?

Drwy gysylltu â Hyrwyddwr, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, cewch gyfle i gael pecyn cymorth pwrpasol ar gyfer eich busnes – a fydd yn helpu i sichrau bod eich busnes yn arwain y ffordd o ran cynwysoldeb. Gall unrhyw fusnes yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cynyddu amrywiaeth eu gweithlu – gan gynnwys gwybod mwy am yr holl fanteision a’r gefnogaeth sydd ar gael i gyflogi pobl anabl – gysylltu â’r Hyrwyddwyr yn DPEC@gov.wales.

 

Pecyn Cymorth sr gyfer Partneriaid Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl