Mae ceisiadau i fod yn Llysgennad #iwill nawr ar agor – sef pobl ifanc rhwng 10 a 25 oed sy’n ymgyrchu, yn gwirfoddoli neu’n codi arian i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
Bob blwyddyn, mae mudiad #iwill yn recriwtio pobl ifanc rhwng 10 a 25 oed fel Llysgenhadon #iwill. Mae’r mudiad yn dathlu’r effaith mae’r bobl ifanc yma yn ei chael ar eu cymunedau, ac yn rhoi llwyfan iddyn nhw ledaenu’r neges ac i annog pobl ifanc eraill i gymryd rhan. Mae Llysgenhadon yn chwarae rhan weithredol wrth lywio gwaith #iwill hefyd.
Ydych chi’n gwybod am arweinydd sy’n creu newid ar gyfer pobl ifanc Cymru?
I gael rhagor o wybodaeth cliciwch https://www.iwill.org.uk/were-recruiting-iwill-ambassadors.
Gallwch enwebu unigolyn ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw https://forms.gle/g9EqLUfo8Mcm6RWq8.
Mae ceisiadau’n cau ar 3 Hydref