New Manager Cymru- rhaglen datblygu arweinyddiaeth

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mae’r rhaglen hon gan Clore Social Leadership yn targedu unigolion sydd â 0-3 blynedd o brofiad.

Rhaglen bedwar mis sy’n datblygu sgiliau a thechnegau allweddol i lwyddo a thyfu mewn rôl, a fydd yn ysbrydoli rheolwyr newydd sydd wedi eu cyffroi gyda’r posibiliadau o sbarduno newid cguidymdeithasol ac sydd â dyhead i fod yn arweinwyr yn y dyfodol.

Mae’r cwrs hwn yn fwyaf addas ar gyfer y rhai sy’n newydd i reoli neu sydd am loywi eu sgiliau. Rheolwyr newydd yw’r rhai sydd â rhwng 0-3 blynedd o brofiad o reoli prosiect neu dîm yn y sectorau elusennol, mentrau cymdeithasol neu ddiwylliannol yng Nghymru. Gallai’r profiad fod yn un rhan amser neu lawn amser gyda neu heb dâl neu’n wirfoddol.

Mwy o wybodaeth

Dyddiad cau i wneud cais: 6 Medi 2021 11:59pm

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch:  socialleaderscymru@wales.coop