infoengine yw’r cyfeirlyfr ar-lein o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru.
Mae dros 4000 o wasanaethau wedi’u cofrestru ar infoengine, mae’r gwasanaethau hyn yn darparu help a chefnogaeth i unigolion / gweithwyr proffesiynol sy’n eu mynedu.
Mae infoengine yn galluogi grwpiau a sefydliadau gwirfoddol i gofrestru eu gwybodaeth ar y cyfeiriadur (nid yw cofrestru’n cymryd mwy na 10 munud), gan ychwanegu ffordd arall i unigolion ddod o hyd i’r gwasanaethau sy’n bwysig iddyn nhw. Nid oes cost i chwilio ar infoengine, ac nid oes angen cyfrif arnoch chi.
Rydyn ni eisiau clywed am eich profiadau o ddefnyddio infoengine a sut rydych chi’n ei weld yn datblygu yn y dyfodol.
Cwblhewch ein harolwg byr 2 funud i’n helpu i barhau i ddatblygu gwybodaeth fel y cyfeirlyfr ar-lein o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru.
Os ydych chi newydd ddarganfod infoengine, cwblhewch yr arolwg hefyd a gadewch i ni wybod a fyddwch chi’n ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar infoengine ac yr hoffech gael cefnogaeth i gofrestru’ch sefydliad a’ch gwasanaeth, cysylltwch â ni: admin@cavs.org.uk