Mae Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru ei hystod o adnoddau Hawdd eu Deall. Mae’r adnoddau newydd yn cynnwys: | |||
Ynglŷn â’r prawf ar eich bron | Am eich prawf llygaid diabetig | Am eich prawf Ymlediad Aortig Abdomenol | Sgrinio yn ystod coronafeirws |
Esbonnir y teithiau sgrinio yn y taflenni Hawdd eu Deall gan ddefnyddio iaith seml a delweddau ategol. Rydym hefyd wedi creu ffilm fer o’r enw ‘Ynglŷn â Sgrinio’r GIG’ mewn partneriaeth â Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd a TAPE Community Music and Film. Mae’r ffilm yn helpu i ateb rhai o’r cwestiynau posibl y bydd pobl eisiau eu gofyn ynglŷn â mynd i’w hapwyntiadau sgrinio ac mae’n ategu’r taflenni Hawdd eu Deall. Drwy gydol y broses o ddatblygu’r adnoddau, buom yn ymgysylltu â sefydliadau sy’n cynrychioli pobl ag anableddau dysgu, pobl â nam ar y synhwyrau a phobl o leiafrifoedd ethnig i sicrhau bod yr wybodaeth rydym yn ei chynnig yn diwallu anghenion y bobl dan sylw. Hoffem ddiolch i’r sefydliadau canlynol sydd wedi cyfrannu at ddatblygu ac adolygu’r adnoddau: TAPE Community Music and Film a’r unigolion a gymerodd ran wrth gynhyrchu’r ffilm; Hawdd ei Ddeall Cymru ar gyfer fformatio a dylunio’r taflenni, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Cyswllt Conwy, Centre of Sign Sight Sound a gweithwyr cyswllt cymunedol lleiafrifoedd ethnig a helpodd i adolygu’r taflenni. Gallwch hefyd gael mynediad i’n hadnoddau Hawdd eu Deall presennol, sy’n cael ei adolygu ar hyn o bryd: | |||
Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau arbed y dolenni hyn yn eich rhestr ‘my favourites’ er mwyn cael mynediad hawdd atynt. Rydym yn croesawu adborth ar sut mae’r taflenni a’r ffilm yn cael eu defnyddio i gynorthwyo pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am fynd am brawf sgrinio. Rhannwch yr adnoddau gyda’ch rhwydweithiau a’r bobl rydych chi’n eu cefnogi. Am Wybodaeth Bellach: |