Mae angen eich help arnom i ymgysylltu â phobl ifanc leol i’w cadw’n ddiogel

Ar ran Hywel Dda:

Er bod y risg o salwch difrifol neu farwolaeth o COVID-19 yn is ymhlith pobl ifanc o gymharu ag oedolion hŷn, gall y firws gael effaith ddinistriol arnynt o hyd.

Mae data’n dangos bod pobl ifanc yn fwy tebygol o gael COVID hir – salwch rydyn ni’n dal i ddysgu amdano ond a all gael effeithiau niweidiol hir-dymor ar fywyd bob dydd unigolyn.

Canfu astudiaeth a gynhaliwyd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd Cyhoeddus Lloegr a saith prifysgol yn y DU fod oedolion iau a dderbynnir i’r ysbyty gyda COVID-19 bron mor debygol o ddioddef o gymhlethdodau a’r rhai dros 50 oed. Datblygodd pedwar o bob 10 o’r rheini rhwng 19 a 49 broblemau â’u harennau, eu hysgyfaint neu organau eraill wrth gael eu trin.

Mae rhaid i bob un ohonom gymryd mesurau syml yn erbyn lledaeniad COVID-19. Nid yn unig amddiffyn ein hunain a’r rhai rydyn ni’n eu caru, ond hefyd ein cymunedau ehangach a’n gwasanaethau cyhoeddus rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.

Rydym yn gwybod na fydd llawer o bobl ifanc yn darllen papurau lleol neu’n ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Dyna pam rydyn ni’n gofyn am eich help i rannu gwybodaeth a negeseuon pwysig gyda phobl ifanc.

 

Gallwch wneud hyn mewn sawl ffordd:

  • Dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich cyngor sir leol neu Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – mae’n hawdd chwilio amdanynt
  • Rhannwch eu negeseuon ar eich tudalennau cyfryngau cymdeithasol eich hun (agored neu gaeedig) yn rheolaidd – mae yna lawer o hysbysebion, fideos, GIFs ac animeiddiadau wedi’u hanelu at y grŵp hwn
  • Anfonwch ddolenni neu negeseuon allweddol at grwpiau dosbarthu a allai fod gennych ar e-bost, WhatsApp, Snapchat neu Messenger
  • Siaradwch â phobl ifanc am eu hofnau neu eu rhwystrau a gadwech iddynt wybod nad yw hi byth yn rhy hwyr i dderbyn brechlyn

 

Y negeseuon allweddol i ni i gyd yw:

  • Mae brechiadau COVID-19 yn ddiogel ac yn effeithiol ac maent yn ein helpu i leddfu cyfyngiadau ar ein bywydau, gan gynnwys agor teithio rhyngwladol ar gyfer gweithio, astudio a phleser
  • Derbyniwch eich brechlyn – bydd y drws bob amser ar agor i chi

 

Profir yn wyddonol bod mesurau eraill yn lleddfu trosglwyddo’r afiechyd, felly cofiwch:

  • Hunanynysu ac archebu prawf, hyd yn oed ar gyfer symptomau ysgafn
  • Gweithiwch gartref pryd bynnag y gallwch
  • Cyfarfod y tu allan – mae’n fwy diogel na’r tu mewn
  • Cyfyngu cyswllt cymdeithasol a chadw pellter pan fo hynny’n bosibl
  • Gwisgwch fwgwd, yn enwedig mewn lleoedd gorlawn
  • Golchwch eich dwylo yn rheolaidd ac yn drylwyr

 

Gallwch ddarganfod ble y gallwch gael brechlyn, neu archebu brechlyn, ar wefan y bwrdd iechyd https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/