Pwer Cyfwerth Llais Cyfwerth
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru a Thîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid Cymru yn falch o gyhoeddi agoriad Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal, rhaglen fentora sy’n anelu at gynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
- Hoffech chi gymryd mwy o ran mewn bywyd cyhoeddus neu wleidyddol a chael effaith ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi, eich cymunedau a’n cymdeithas?
- Ydych chi wedi cael llond bol ar beidio â chael eich cynrychioli gydag ychydig o bobl fel chi yn y Senedd neu yn eich cyngor lleol?
- A oes problem yr ydych yn teimlo’n angerddol amdani neu oes gennych chi syniadau ar gyfer newid ar ei chyfer?
Ein gweledigaeth yw gweld mwy o bobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, mwy o ferched, mwy o bobl LGBTQ+ a mwy o bobl anabl mewn swyddi gwneud penderfyniadau yng Nghymru gan gynnwys byrddau cyhoeddus (fel Cyngor Celfyddydau Cymru neu Chwaraeon Cymru), byrddau iechyd, swyddi etholedig mewn llywodraeth leol a Senedd y DU neu Senedd Cymru, ymddiriedolwyr elusennau, llywodraethwyr ysgolion ac fel gweithredwyr cymunedol.
Rydym yn recriwtio’r rownd gyntaf o fentorai ar gyfer y rhaglen fentora traws-gydraddoldeb arloesol hon!
Mwy gwybodaeth: wenwales.org.uk/cy/cysylltu/mentora/
Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau: 26 Medi 2021