Strategaeth ar gyfer Glasu 8 Tref Flaenoriaeth yn Sir Gâr

Isadeiledd Gwyrdd a Glas

Mae LUC (Land Use Consultants) yn gweithio gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin i ddarparu Strategaeth sy’n amlinellu sut y bydd Isadeiledd Gwyrdd a Glas yn cael ei ddatblygu mewn 8 ‘tref flaenoriaeth’ yn y Sir.

Isadeiledd Gwyrdd a Glas (IGG) yw’r rhwydwaith o ofodau naturiol a rhannol naturiol a’r coridorau sy’n gorwedd rhwng ein dinasoedd, trefi a phentrefi ac yn plethu drwyddynt

Tref Flaenoriaeth:

  • Llanelli
  • Caerfyrddin
  • Rhydaman / Cross Hands
  • Cwm aman
  • Cydweli
  • Sanclêr
  • Llanymddyfri
  • Castell Newydd Emlyn

 

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar yr Hwb Ymgynghori

Sut y gallwch gyfrannu

Cwblhewch ein holiadur gweledigaeth a ‘graddiwch eich lle’ :

Rhowch wybod i ni sut mae eich tref yn perfformio o safbwynt isadeiledd gwyrdd a glas –

  • Beth yw’r cryfderau?
  • Beth sydd angen ei wella? 

Cesglir y graddfeydd hyn a’u darlunio drwy ddefnyddio arf gweledol fel rhan o’r Strategaeth.

Ein map rhyngweithiol o Sir Gâr:
Ychwanegwch bwyntiau at ein map yn amlygu cryfderau, gwendidau a chyfleoedd allweddol yn unrhyw un o’r wyth tref.

Ewch i’r Hwb Ymgynghori