Cyflwynir y cwrs hwn ar-lein mewn sesiwn 1 awr
Dyddiad y Cwrs: 14.02.22, 1.00yp – 2.00yp
Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu ar ôl y dyddiad cau.
Dyddiad cau: 17.01.22
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Staff yn y sector annibynnol a’r 3ydd sector.
Beth yw’r amcanion?
Nod y cwrs hwn yw cynyddu hyder wrth ymgysylltu ag unigolion sy’n hunan-niweidio.
Nod penodol y cwrs yw mynd i’r afael â’r canlynol:
- Datblygu dealltwriaeth am hunan-niweidio a myfyrio ar yr heriau y mae’r ymddygiad yn eu cyflwyno i staff.
- Ymatebion defnyddiol, gan gynnwys canllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
- Y gwahaniaeth rhwng ymddygiad hunan-niweidio a meddwl hunanladdol yn ogystal â’r cysylltiadau â risgiau posibl i rai unigolion.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen ar gyfranogwyr i’w cefnogi nhw i ymateb yn briodol i unigolion sy’n hunan-niweidio.