Ydych chi’n fwy ymwybodol o ac yn poeni fwy am newid hinsawdd nawr nag o’r blaen?
Ydy’r flwyddyn newydd yn hwb i chi wneud rhywbeth positif amdano?
Ydych chi’n awyddus i weithredu’n lleol ond ddim yn siŵr ble i ddechrau?
Allwn ni eich helpu!
Mae Adfywio Cymru yn cefnogi cymunedau i weithredu yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy. Gall hyn olygu cael ôl troed carbon is, gwarchod a gwella natur, ynni adnewyddadwy neu gael bwyd iachus wedi’i dyfu’n lleol er enghraifft. Mae yna fanteision ychwanegol hefyd o gymunedau yn dod at ei gilydd i daclo newid yn yr hinsawdd, gan gyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol fel cefnogi eich cymuned i fod yn fwy iachus, cydweithio, cynhyrchu incwm, a dysgu sgiliau newydd, er enghraifft.
Mae yna tua 20 o Gydlynwyr Adfywio Cymru ar draws y wlad, wedi’u lleoli mewn amrywiaeth o fudiadau sector wirfoddol a mentrau cymdeithasol ac mae hyn yn creu rhwydwaith o bobl weithgar sy’n rhannu syniadau, dysgu o’i gilydd ac yn cefnogi ei gilydd.
Gallwn helpu chi fel grŵp neu gymuned ehangach i ddatblygu syniad sy’n gweddu’ch ardal chi, felly all hyn fod yn grŵp fwyd lleol, trafnidiaeth gymunedol, prosiect tyfu neu rywbeth i wneud ag ynni? Neu rywbeth arall-mae fyny i chi! Bydd ein cydlynwyr yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun gweithredu a’ch cysylltu i gefnogaeth mentora cymheiriaid. Gall hyn nail ai ddod wrth unigolyn neu gallwch er enghraifft ymweld â grŵp arall sy’n gwneud, neu wedi gwneud rhywbeth tebyg i chi.
Os oes gennych syniad am brosiect, cysylltwch â’r tîm canolog fel y cam cyntaf info@renewwales.org.uk <mailto:info@renewwales.org.uk> a byddant wedyn yn eich cysylltu â’r cydlynydd perthnasol.
Ond mae amser yn brin gan fod ein rhaglen yn gorffen ar ddiwedd Mehefin 2022!
Felly gorau oll pwy gyntaf y cysylltwch!
Chwiliwch amdanom ni:
www.renewwales.org.uk
@renewwales
facebook.com/renewwales
Cefnogir Adfywio Cymru drwy’r Rhaglen Camau Cynaliadwy a gyflenwir trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’i gyllido gan arian o gyfrifon banc segur.