Yn Dechrau 19/01/2022 1-2yp
Pwy: Pobl ifanc 16-24 oed nad ydyn nhw mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant
Mae’r tîm Cymunedau Actif wedi llwyddo i sicrhau cyllid trwy gronfa Gaeaf Lles Llywodraeth Cymru ac wedi partneru gyda’r Scarlets i gynhyrchu prosiect 10 wythnos sy’n targedu’r rhai nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET). Nod y prosiect hwn yw gwella iechyd a lles cyffredinol y boblogaeth NEET a nodwyd wrth iddynt gael eu cefnogi trwy daith i baratoi ar gyfer integreiddio i chwaraeon cymunedol naill ai fel cyfranogwr neu wirfoddolwr. Mae’r prosiect hefyd yn ceisio meithrin rhinweddau fel hyder, trefnu, arwain a sgiliau cyfathrebu i’w trosglwyddo i’r gweithle. Nid oes unrhyw gost ac mae pob agwedd ar y cwrs yn cael ei hariannu’n llawn ar gyfer pob ymgeisydd. Mae lleoedd yn gyfyngedig. Os hoffech ddarganfod mwy am y Prosiect Ailgychwyn, yna cysylltwch ag Arweinydd y Prosiect Alice Hope ar yr e-bost isod.
Alice Hope (Swyddog Actif Oedolion) AHope@carmarthenshire.gov.uk