Rhwydwaith newydd: Cyfiawnder Masnach Cymru

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Lansiad Cyfiawnder Masnach Deg

“Mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad ‘Cyfiawnder Masnach Cymru’ – prosiect peilot mewn partneriaeth rhwng Cymru Masnach Deg a Chanolfan Llywodraethiant Cymru / Fforwm Brexit CGGC fydd yn creu rhwydwaith lle gall rhanddeiliaid gydweithio er mwyn hyrwyddo Cyfiawnder Masnach. Cafodd ei ariannu hefyd er mwyn adeiladu gwybodaeth a gallu mewn cyfranogwyr project. Bydd yn rhoi llais ar y cyd i sefydliadau yng Nghymru wrth sicrhau bod polisi masnach yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo datblygu cynaliadwy, safonau cymdeithasol uchel a hawliau dynol. Caiff y prosiect ei ariannu gan wobr Arloesi i Bawb Prifysgol Caerdydd.

Rydym yn cynnal cyfarfod cychwynnol ar gyfer y sawl sydd â diddordeb ar Dydd Llun 31ain Ionawr o 2-4 yp ar Zoom. Byddwn yn egluro syniad y project ac yn rhannu syniadau ar feysydd lle gallwn gydweithio.

Os hoffech fynychu, neu dderbyn diweddariadau ynglŷn â gweithgareddau’r project, byddwch cystal â thanysgrifio yma: https://forms.gle/BoY4AHfAaEsjEJmTA “

 Mwy o wybodaeth