Cwrs Am Ddim: Cynllunio Gwasanaethau Digidol Ieuenctid

Mae ProMo-Cymru yn cynnal cwrs wyth wythnos am ddim i sefydliadau’r trydydd sector sydd yn gweithio ag ieuenctid mewn un ffordd neu’i gilydd. 

Mae Cynllunio Gwasanaethau Ieuenctid Digidol yn gwrs ymarferol sydd yn cael ei hwyluso trwy’r rhaglen Newid, drwy gyllid Llywodraeth Cymru. Y nod yw grymuso sefydliadau ieuenctid trydydd sector Cymru i drawsffurfio gwasanaethau yn ddigidol gan ddefnyddio’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth.

Dros 8 wythnos, bydd unigolion neu dimau o wahanol sefydliadau yn cael eu cefnogi i gynllunio, profi a datblygu gwasanaethau digidol/hybrid newydd neu ailfeddwl gwasanaethau presennol.

 

Yn y rhaglen yma byddech yn:

  • Cael cyfle i ddatrys her go iawn sydd yn wynebu eich sefydliad
  • Rhoi amser a gofod i brofi syniadau a dulliau newydd
  • Dysgu pethau newydd am ddefnyddwyr eich gwasanaeth a’u hanghenion
  • Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol
  • Dysgu sut i ddatblygu gwasanaethau digidol sydd yn canolbwyntio ar y person gan ddefnyddio methodoleg Cynllunio Gwasanaeth
  • Arbrofi gydag offer digidol newydd
  • Cael mynediad i’r pecyn cymorth ac adnoddau DesYIgn

 

I bwy mae’r cwrs yma?

Mae’n rhaid i chi fod yn gweithio i sefydliad trydydd sector yng Nghymru sydd yn trosglwyddo gwasanaethau i/gyda phobl ifanc er mwyn gallu cofrestru am y cwrs am ddim yma.

I sicrhau eich bod yn cael y profiad hyfforddiant orau, byddem yn annog dau berson o bob sefydliad i fynychu’r cwrs, er nad yw hyn yn hanfodol. Bydd angen i bob person gofrestru ar wahân.

 

Ar ba ffurf mae’r cwrs?

Mae hwn yn gwrs e-ddysgu wyth wythnos, gyda thua 3-4 awr o astudio ar ben eich hun a gwaith prosiect. Bydd tasgau newydd yn cael eu gosod bob wythnos i’w cwblhau unrhyw amser yn ystod yr wythnos yna. Mae dau gweminar wedi cael eu trefnu, ond mae popeth arall yn hyblyg cyhyd â bod y gwaith cwrs yn cael ei gwblhau o fewn yr wyth wythnos.

 

Dyddiadau pwysig:

Dyddiad cau ceisiadau – 18 Chwefror 2022 

Penderfyniad ar ganlyniad eich cais – 21 Chwefror 2022

Gweminar Cyflwyno: 7 Mawrth, 2-4yp

Gweminar Cloi: 28 Ebrill, 2-4yp

 

Darganfod mwy yma

Cofrestru yma