“Mae ein Tîm o Swyddogion ar draws Gorllewin Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid gwerthfawr i lunio’r rhaglen gyffrous, mis o hyd hon o sesiynau ar-lein, sy’n rhoi blas o’r amrywiaeth o weithgareddau a chymorth ddigidol sydd ar gael.
Ymunwch â ni a rhowch gynnig ar ambell weithgaredd!”
Prif Weithredwr CAVO, Hazel Lloyd-Lubran
“Rwyf wrth fy modd gyda’r syniad o’r ymgyrch ChWEfror i gael mwy o bobl i gysylltu ag eraill ar-lein. Mae PAVS yn cynnig pecyn benthyca a chymorth ‘DigiCoach’ i helpu bobl i fynd ar-lein drwy raglen Cysylltiadau Digidol Sir Benfro a ddarperir mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru, Cyngor Sir Penfro, a grwpiau trydydd sector.
Mae’r ymgyrch ChWEfror yn cynnig rhaglen wych o ddigwyddiadau drwy gydol y mis – da iawn i bawb sy’n cymryd rhan!”
Prif Swyddog PAVS, Sue Leonard
“Dros y 12 mis diwethaf mae ein Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Cymunedol wedi gweithio’n ddiflino i gynorthwyo pobl i ymgysylltu’n rhithwir. Mae hyn wedi arwain at gyfle gwych i chi gwrdd â ffrindiau, i deimlo’n gysylltiedig, ac i ymuno â chyfleoedd amrywiol sy’n cael eu darparu trwy gydol ChWEfror. Cymerwch olwg ac ymunwch â beth bynnag sy’n eich ysbrydoli.
Mae ein hiechyd a’n lles yn hanfodol bwysig ar hyn o bryd, a gall unrhyw gysylltiadau a wnawn gynyddu ein teimlad o les a’n helpu i deimlo’n rhan o rywbeth.
Cofiwch hefyd fod CAVS yn Ganolfan Ar-lein a gall eich cyfeirio at gymorth ychwanegol i fynd ar-lein a theimlo’n hyderus yn ddigidol.
Fel prosiect rhanbarthol mae Swyddogion Datblygu Gwirfoddoli Cymunedol CAVS, CAVO a PAVS wedi cyd-gynhyrchu mis o gyfleoedd ar gyfer Gorllewin Cymru gyfan ac rydym yn falch o’u cefnogi.”
Uwch Swyddog Datblygu CAVS, Jackie Dorrian