Grŵp ffocws: Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Grŵp ffocws ar gyfer grwpiau pob sefydliad a grŵp yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Mercher 30 ain o Fawrth 2022

Amser: 6 yh tan 8 yh

Lleoliad: Zoom

NEU

Dyddiad: Dydd Gwener 1af o Ebrill 2022

Amser: 2 yp tan 4 yp

Lleoliad: Zoom

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Diverse Cymru i ymgymryd ag adolygiad cyflym o’i Raglen Cydlyniant Cymunedol yng Nghymru. Elusen gydraddoldeb flaenllaw yng Nghymru yw Diverse Cymru. Mae ein gwaith yn gweithio ar draws nodweddion, ac yn cynnwys unrhyw un sy’n profi gwahaniaethu neu anfantais yng Nghymru.

Nod y prosiect hwn yw:

  • Asesu dyluniad a darpariaeth y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol;
  • Deall pa mor dda mae’r rhaglen yn cefnogi cydlyniant cymunedol ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol; a
  • Canfod gwersi i’w dysgu ar gyfer gwella’r rhaglen.

Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn darparu adroddiad i Lywodraeth Cymru. Bydd yr adroddiad hwn yn ddienw. Ni fydd yn cynnwys unrhyw enwau ac ni fydd unrhyw sylwadau’n cael eu priodoli i bobl.

Rydym yn awyddus i siarad â chynrychiolwyr unrhyw fudiad neu grŵp cymunedol yng Nghymru.

Anfonwch ebost at: research@diverse.cymru i gofrestru ar gyfer y grŵp ffocws hwn, os gwelwch yn dda.

Rhowch wybod inni:

  • Os hoffech gyfrannu yn Gymraeg, yn Saesneg, neu’n ddwyieithog
  • Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd ar gyfer cymryd rhan yn y grŵp ffocws hwn.

Rydym hefyd yn cynnal grwpiau ffocws ar gyfer:

  • Sefydliadau pobl anabl ar 29ain o Fawrth am 1yp
  • Sefydliadau pobl dduon, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar 31ain o Fawrth am 6yh.