Arolwg Bwyd ar gyfer Sir Gâr

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mae Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr yn gweithio i ddeall y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn dod o hyd at fwyd ar draws y sir. Bydd hyn yn helpu i greu darlun o’r ffactorau yn Sir Gâr sy’n dylanwadu ar ba mor hawdd neu anodd yw hi i bobl gael diet sy’n gytbwys o ran maeth, ac sy’n hybu iechyd a lles.

Bydd yr ymatebion i’r arolwg yn cyfrannu at ddeall ble a sut mae’r system fwyd yn gweithio yn y sir, a lle mae angen goresgyn rhwystrau i alluogi mwy o degwch wrth gael mynediad at fwyd maethlon o ansawdd uchel.

Mae Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr yn cynnwys unigolion, sefydliadau cymunedol a busnesau, gyda’r nod cyffredin o hyrwyddo bwyd teg, cynaliadwy ac iach i bawb. Cefnogir y Rhwydwaith gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr, Cyngor Sir Gâr, Adran Maeth a Dieteteg Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr eich amser i lenwi’r arolwg ac am ofyn i’ch cydweithwyr/ cwsmeriaid/ cleientiaid wneud yr un peth.

Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na deng munud i’w gwblhau. 

https://carmarthenshire.researchfeedback.net/s/om4i7a