Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau
Mae’r gronfa hon bellach ar agor. Y dyddiad cau yw 14 Mehefin am 12pm (canol dydd)
Mae Cronfa Waddol Dr Dewi Davies yn rhoi cymorth i’r canlynol:
- Grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac ynysu gan gynnwys tlodi tanwydd a phroblemau gwledig
- Prosiectau sy’n gweithio gyda’r genhedlaeth hŷn i leihau unigrwydd
- Grwpiau a sefydliadau sy’n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo a dysgu’r Iaith Gymraeg, Diwylliant Cymreig a Threftadaeth Gymreig
- Magu hyder ac ehangu gorwelion unigolion nad oes ganddynt lawer o adnoddau
- Unigolion talentog er mwyn iddynt ddilyn eu dyheadau e.e. bwrsariaethau, cyfarpar, offerynnau
IYn 2020 cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ganfyddiadau ymchwil a wnaed gyda mwy na 100 o grwpiau cymunedol ar draws Cymru. Amlygodd ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau i arianwyr roi blaenoriaeth i arian craidd ac i bartneriaethau tymor hirach. Rydym wedi defnyddio yr hyn a ddysgwyd o’r adroddiad i ffurfio meini prawf Cronfa Waddol Dr Dewi Davies. Erbyn hyn bydd y gronfa’n cefnogi costau craidd sefydliadau sy’n gweithio mewn meysydd cymwys ac yn cefnogi’r themâu a amlygwyd uchod.
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol, a bod gwybod bod arian ar gael yn gallu rhoi hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect yn y tymor hir. Mae Cronfa Waddol Dr Dewi Davies yn cynnig cyfle i grwpiau ymgeisio am arian am sawl blwyddyn,hyd at dair blynedd, ond bydd hefyd yn dal i gynnig arian ar gyfer prosiectau un flwyddyn.
Rydym yn gobeithio gallu dyrannu o leiaf un grant tair blynedd y flwyddyn. I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano. D.S. Bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried ar gyfer cyllid un flwyddyn os nad ydych yn llwyddiannus am grant tair blynedd.
Y grantiau sydd ar gael
- Gall unigolion, grwpiau cymunedol, elusennau a phrosiectau lleol wneud cais am grantiau rhwng £500 a £5,000
- Lle y ceir achos eithriadol ar gyfer cymorth, gellir dyfarnu grantiau o hyd at £10,000.
Pwy all wneud cais?
Unigolion, grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sy’n byw yn yr Ardaloedd Allbwn Uwch (LSOAs) haen isaf fel y’u gelwir yn fwy cyffredin:
Yn Sir Gaerfyrddin
- Cenarth,
- Cynwyl Elfed 1,
- Llanfihangel ar Arth 1 & 2,
- Llangeler
- Llanybydder 1 & 2.
Yng Ngheredigion
- Aberporth 1 & 2
- Beulah
- Capel Dewi
- Aberteifi Mwldan
- Cardifan Rhyd y Fuwch
- Aberteifi Teifi
- Llandyfriog
- Tref Llandysul
- Llanwenog
- Penbryn
- Pen-parc 1 & 2
- Troedyraur
Mae’r gronfa’n cynnwys Trefi Aberteifi
- Aberporth
- Castell Newydd Emlyn
- Llandysul
- Llanybydder ynghyd â’r pentrefi cyfagos.
Sut i wneud cais?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.
Ffurflen gais ar gael o wefan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Cwrdd â’r Cyllidwr: Dydd Iau, 12fed Mai am hanner dydd.
Cewch glywed mwy gan y cyllidwr am y gronfa hon, archebwch yma:Eventbrite