Mae cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn gronfa grantiau ar gyfer grwpiau cymunedol a mudiadau ledled Cymru sy’n gweithio mewn partneriaethau yn Affrica Is-Sahara.
Mae cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn fenter flaenllaw gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.
Gall ymgeiswyr wneud cais am gyllid rhwng £1,000-£25,000 a rhaid iddynt wneud cyfraniad diriaethol at o leiaf 1 o’r 4 thema a ddisgrifir isod:
- Iechyd
Rydym yn ceisio cyfrannu at y gwaith o ddiogelu iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol cymunedau yn Affrica drwy ein grantiau. - Dysgu Gydol Oes
O dan Dysgu Gydol Oes, byddwn ni’n cynorthwyo unigolion neu grwpiau o bobl ifanc neu oedolion yng Nghymru a/neu Affrica i ennill sgiliau a gwybodaeth.
- Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
O dan ein ffrwd grant newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, byddwn yn cefnogi mentrau sy’n lleihau dirywiad amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth yn Affrica yn ogystal â gwaith strategol ac ymarferol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac i amddiffyn pobl rhag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar gyflenwadau bwyd, y dŵr sydd ar gael neu ddiogelwch. - Bywoliaeth gynaliadwy
Rydyn ni’n ceisio hybu cyfleoedd bywoliaeth realistig a chynaliadwy yng Nghymru ac Affrica, gan sicrhau bod unigolion wedi’u hymyleiddio yn cael eu cynnwys mewn datblygiadau economaidd a chymdeithasol llawr gwlad.