Fel elusen, mae Adferiad Recovery wedi ymrwymo i ymgyrchu o blaid gwella gwasanaethau, deddfwriaeth, newid systemau a’r farn gyhoeddus er budd ein buddiolwyr, ac eleni hoffem ni amlygu’r mater o stigma sy’n gysylltiedig â chaethiwed. Dyna pam ein bod yn lansio ein hymgyrch Dynol o Hyd eleni, sydd am annog pobl i gwestiynu’r hyn y maent y gwybod am gaethiwed a’r sawl sydd yn ei brofi. Mae amcanion allweddol yr ymgyrch yn cynnwys:
- Mynd i’r afael gyda’r stigma sy’n effeithio ar gaethiwed.
Drwy gydol yr ymgyrch hon, rydym am herio’r delwedd ystrydebol o rywun sydd â phroblemau caethiwed a dangos bod pobl yn fwy na’u caethiwed ac yn haeddu ein parch a’n cymorth.
- Rhoi llais i bobl sydd â phrofiad o fyw â chaethiwed.
Bydd ein hymgyrch yn cael ei harwain gan unigolion sydd â phrofiad o gaethiwed ac mae gan bob un ohonynt eu straeon unigryw eu hunain i’w hadrodd. Bydd yr ymgyrch yn cynnig platfform iddynt rannu eu profiadau, ysbrydoli eraill i chwilio am adferiad a dangos nad yw pobl sydd â chaethiwed oll yr un fath.
- Dathlu a hyrwyddo adferiad.
Mae adferiad yn daith o hunan-ddarganfod. Rydym am ysbrydoli pobl sydd â phroblemau caethiwed i fynd i’r afael gyda’u caethiwed a chwilio am yr help sydd angen arnynt. Rydym am iddynt weld fod adferiad yn rhywbeth positif ac ni ddylai beirniadaeth pobl eraill olygu eu bod yn ceisio cuddio eu caethiwed a dioddef mewn distawrwydd.
Bydd ein digwyddiad Dynol o Hyd yn cael ei gynnal Ty Aman, Stryd Fawr, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 2NA ar 21ain Gorffennaf rhwng 11yb a 2yp. Mae croeso i chi fynychu ar unrhyw adeg yn ystod y digwyddiad. Byddwn yn sicrhau bod canllawiau pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn.
Rydym yn gobeithio eich bod yn medru ymuno gyda ni! Rhowch wybod i ni os ydych yn medru mynychu – cysylltwch supportservices@adferiad.org neu 01792 816600.