Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ôl! #NôliNatur
Gwnewch gais am becyn AM DDIM
Trawsnewidiwch ardal i ardd a fydd o fudd i natur a’ch cymuned.
Mae pob pecyn yn cynnwys planhigion, offer a deunyddiau brodorol i wneud eich gardd yn brydferth. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn delio â’r holl archebion a dosbarthu, a bydd ein swyddogion prosiect yn dod i roi cymorth i’ch helpu i greu eich gofod natur newydd.
Mae ein pecynnau eleni yn perthyn i dri gategori:
Pecynnau dechreuol
i grwpiau cymunedol neu wirfoddol sy’n dymuno creu Gardd Tyfu Bwyd neu
Ardd Bywyd Gwyllt.
Gwnewch gais
Pecynnau datblygu
i sefydliadau cymunedol sy’n barod i ymgymryd â phrosiect mwy ac adeiladu Gardd Tyfu Bwyd neu Ardd Bywyd Gwyllt.
Gwnewch gais
Ac am y tro cyntaf, rydym yn cynnig
Perllan gymunedol
Crëwch hyb awyr agored ar gyfer eich cymuned – gofod yn llawn coed ffrwythau a chnau, planhigion cynhenid a blodau gwyllt, lle gall pobl o bob oed ddod ynghyd.
Gwnewch gais am berllan gymunedol
Er y byddem yn annog unrhyw un sydd â gofod cymunedol i wneud cais, ar gyfer y rownd hon o geisiadau, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau mewn ardaloedd trefol, ardaloedd difreintiedig, ac ardaloedd sydd ag ychydig neu ddim mynediad at natur. Byddem hefyd yn falch iawn o dderbyn ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru. Os hoffech wybod mwy am y prosiect, cliciwch draw i’n wefan.