O fis Medi ymlaen, bydd FareShare Cymru yn rhoi cymorth i brosiectau bwyd yng Nghaerfyrddin. Fel rhan o’r gwaith hwn bydd angen gwirfoddolwyr Sir Gaerfyrddin arnom.
Mae FareShare Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr o Sir Gaerfyrddin.
Mae FareShare Cymru yn ail ddosbarthu bwyd dros ben o ansawdd da, a fyddai fel arall yn mynd yn wastraff, i grwpiau cymunedol ac elusennau sy’n rhedeg prosiectau bwyd. Mae’r prosiectau hyn yn defnyddio bwyd i gefnogi pobl fregus yn eu cymunedau, ac yn cynnwys: llochesi ar gyfer pobl digartref a phobl sydd wedi dioddef trais domestig, clybiau cinio ar gyfer pobl hŷn, pantrîs cymunedol a llawer mwy.
‘Heb y dosbarthiadau ‘rydyn ni’n eu derbyn gan FareShare Cymru, byddai nifer o deuluoedd Gorllewin Cymru yn wynebu’r dewis anodd rhwng talu biliau ynni sydd ar gynnydd, a bwyta.’ – Foothold Cymru, Llanelli
Mae FareShare Cymru yn gweithio i gefnogi grwpiau cymunedol ac elusennau Gorllewin Cymru. Rhan nesaf hyn yw gweithio gyda grwpiau yng Nghaerfyrddin o fis Medi. Un enghraifft o brosiect bwyd y byddant yn ei gefnogi ym mis Medi, yw caffi cymunedol sy’n gweithio i fynd i’r afael ag achosion ehangach tlodi, yn hytrach na dim ond symptomau newyn, trwy greu lle i bobl gyfarfod a bwyta bwyd da tra’n cael cymorth gan wasanaethau cynghori.
Er mwyn cefnogi’u gwaith yng Ngorllewin Cymru mae FareShare Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr. Byddai’r rôliau yn cynnwys gyrru i fannau penodol ledled gorllewin Cymru, cefnogi grwpiau drwy gasglu bwyd a deall pwysigrwydd diogelwch bwyd.
Yn ystod cyfnod lle mae costau byw yn cynyddu, gobeithiai FareShare Cymru allu darparu cefnogaeth fwyd i grwpiau cymunedol ac elusennau Caerfyrddin sy’n gweithio i gefnogi’r bobl yn eu cymuned sy’n wynebu tlodi bwyd.
Ceir mwy o wybodaeth am FareShare Cymru ar eu gwefan https://fareshare.cymru/
Cysylltwch â members@fareshare.cymru os oes gennych chi gwestiynau.
Rolau Gwirfoddolwyr
Disgrifiad Rôl Gwirfoddoli: Gyrrwr
Disgrifiad Rôl Gwirfoddoli: Cynorthwyydd dosbarthu
Gwelwch hefyd : https://fareshare.cymru/volunteer-with-us/