Sir Gâr yn dathlu llwyddiant fel Lle Bwyd Cynaliadwy

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Sir Gaerfyrddin yw’r aelod mwyaf newydd o rwydwaith arloesol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU sydd â’r nod o wella bywydau pobl a lleihau ein heffaith ar y blaned drwy fwyd.

Mae Bwyd Sir Gâr yn bartneriaeth fwyd draws-sector fywiog sy’n dwyn ynghyd aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â mudiadau cymunedol ar lawr gwlad, busnesau a thrigolion o bob rhan o’r sir i weithio tuag at system fwyd iach a chynaliadwy.

Gan ymuno â Bwyd Caerdydd, Bwyd y Fro, Bwyd RhCT, Partneriaeth Fwyd Blaenau Gwent, Partneriaeth Fwyd Sir Fynwy a Phartneriaeth Fwyd Gogledd Powys, Bwyd Sir Gâr yw’r seithfed aelod o Leoedd Bwyd Cynaliadwy Cymru.

Mae Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ymwneud â gweithio ar draws pob agwedd ar y system fwyd i ddatrys rhai o’r materion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd pwysicaf heddiw. Ei nod yw sefydlu partneriaethau bwyd traws-sector i drawsnewid systemau bwyd lleol ac annog camau syml i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur drwy fwyd.

Mae Bwyd Sir Gâr yn falch iawn o fod yn rhan o’r rhwydwaith a fydd yn dod â llawer o fanteision a chyfleoedd.

Roedd Augusta Lewis, Swyddog Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Sir Gaerfyrddin, yn allweddol wrth ddatblygu’r cais am aelodaeth o Leoedd Bwyd Cynaliadwy. Yn ddiweddar, mae wedi cael ei phenodi yn Gynorthwyydd Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin, ac mae wedi’i lleoli gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr – CAVS. Dywedodd:

“Rwyf wedi bod wrth fy modd â’r angerdd a’r brwdfrydedd sydd gan bobl ledled Sir Gaerfyrddin dros greu system fwyd iach a hygyrch. Mae gweithio gyda’r grwpiau clwstwr o fewn Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin, fel tyfwyr proffesiynol a ffermwyr, cogyddion sy’n hyrwyddo cadwyni cyflenwi byr a darparwyr bwyd cymunedol, a chysylltu â’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, yn cynnig cyfleoedd cyffrous.

“Mae’n gyfle i weithio tuag at system fwyd leol iach sy’n adlewyrchu nodweddion diwylliannol a daearyddol unigryw’r sir ac sy’n addas ar gyfer yr 21 ain ganrif a chenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Katie Palmer o Synnwyr Bwyd Cymru, y sefydliad sy’n arwain y rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru:

“Rydw i mor falch bod Bwyd Sir Gâr wedi ymuno â’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy sy’n tyfu yng Nghymru. Mae’n ysbrydoledig gweld pa mor gyflym y mae’r bartneriaeth wedi datblygu, sy’n dangos yr angen i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd a’r awydd ar lawr gwlad i gydweithio ar weledigaeth ar y cyd.

“Mae Bwyd Sir Gâr wedi bod yn gatalydd i sbarduno newid strategol yn y sir, gan helpu i greu system fwyd leol sydd wedi’i chysylltu’n well – un sy’n ystyried iechyd a llesiant, yr amgylchedd a’n heconomi; yn hyrwyddo cydweithio a chynhwysiant; ac yn meithrin gwydnwch ar draws cymunedau.”

Yn ddiweddar, cynhaliodd Synnwyr Bwyd Cymru Gynhadledd Bwyd mewn Cymunedau yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin, gan ddod ag arweinwyr bwyd o bob cwr o Gymru ynghyd i gysylltu â’i gilydd, i rannu profiadau ac i ysbrydoli newid.

Wrth siarad yn y gynhadledd, dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

Mae’r cyngor yn falch iawn o chwarae rhan allweddol yn y bartneriaeth hon ac mae’n awyddus i weithio gyda’r holl randdeiliaid i ddatblygu a gwella ymhellach ein system fwyd sydd eisoes yn gyfoethog yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn cydnabod y rhan allweddol y gall cynhyrchu a chyflenwi bwyd yn gynaliadwy ei chwarae o ran nifer o faterion cymdeithasol pwysig o’r hinsawdd i iechyd a chostau byw. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i wneud cynnydd ar yr agenda hynod bwysig hon.”

Ychwanegodd Barry Liles, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin:

“Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn falch iawn o gefnogi Bwyd Sir Gâr a chael cydnabyddiaeth fel Lle Bwyd Cynaliadwy yw’r cam cyntaf yn y daith bartneriaeth hon.

“Mae llawer o weithgarwch eisoes yn Sir Gaerfyrddin ond rydym hefyd yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n system fwyd leol.”