Cronfa Gofalwyr Cymunedol
SIR GAERFYRDDIN
Ariennir Cronfa Gofalwyr Cymunedol Sir Gaerfyrddin gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru (PGGC) ac fe’ii rheolir gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS)
A oes angen cyllid arnoch ar gyfer eich Grŵp Cymunedol i helpu darparu cyfleoedd ar gyfer gofalwyr, a gofalwyr di-dâl yn enwedig, i gynnal eu llesiant a chael cyfle i gymryd seibiant o’u rôl ofalu yn Sir Gaerfyrddin?
Mae gan Gronfa Gofalwyr Cymunedol Sir Gaerfyrddin gyllid ar gael NAWR o hyd at £2,000 i helpu mudiadau i ddarparu ystod o wasanaethau i gefnogi llesiant Gofalwyr, yn eu bywyd ochr yn ochr â gofalu.
Ymhlith yr enghreifftiau y gellid eu hystyried ar gyfer eu hariannu mae:
- annog pobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau a/neu weithgareddau lleol, gan gynnwys cychwyn gweithgareddau cymunedol megis corau, clybiau cinio, boreau coffi, grwpiau celf
- darparu gweithgareddau seibiant i wella a diogelu iechyd meddwl gofalwyr di-dâl
- darparu ar gyfer pobl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol e.e. cylchlythyron ar bapur neu daflenni i’w dosbarthu o ddrws i ddrws
- lleihau ynysigrwydd cymdeithasol megis galwadau ffôn, mentrau cynhwysiant
digidol, ffonau symudol ac atodion - creu deunyddiau/gweithgareddau ar-lein newydd, marchnata a hyrwyddo
Cymhwysedd
Rhaid cwblhau prosiectau a gwario arian erbyn 31ain Mawrth 2023.
Nid yw costau staff ar gyfer dyletswyddau craidd yn gymwys. Ni fydd y Gronfa yn talu am wariant ôl-weithredol, gwariant ymroddedig na chostau ar gyfer gweithgareddau a ddechreuwyd cyn i grant gael ei gymeradwyo.
Y Broses Ymgeisio
Llenwch y ffurflen gais isod a’i chyflwyno gyda’r dogfennau ategol perthnasol i admin@cavs.org.uk