Dweud eich dweud am dlodi plant yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i blant a phobl ifanc, teuluoedd ac aelodau o’r gymuned, a sefydliadau sy’n cefnogi ac yn siarad ar ran plant mewn tlodi, i helpu i gefnogi penderfyniadau am y ffordd orau o fynd i’r afael â thlodi plant.

Mae CAVS mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr,  Foothold Cymru a’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gwahodd pobl ifanc, rhieni, neiniau a theidiau, gofalwyr ac eraill i rannu eu profiad a’u barn ar yr hyn y gall gwasanaethau a sefydliadau ei wneud i:

  • Sicrhau bod pobl yn cael y cymorth ariannol ac ymarferol cywir i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc
  • Cefnogi plant i symud allan o dlodi fel plant ac yn ddiweddarach fel oedolion
  • Trin pob plentyn, person ifanc a theulu ag urddas, parch a hawliau cyfartal a herio stigma tlodi.

Rhannwch eich barn a’ch profiadau erbyn 28 Mawrth 2023 drwy ddilyn y ddolen hon https://www.surveymonkey.co.uk/r/tlodiplant neu trwy gysylltu â:

Menter Gorlewin Sir Gârymholiad@mgsg.cymru

Foothold Cymruinfo@footholdcymru.org.uk

Ymddiriedolaeth y Gofalwyr – info@ctcww.org.uk

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â perminder.dhillon@cavs.org.uk

Lawrlwythwch y ddogfennau hyn er mwyn Dweud eich dweud am dlodi plant yng Nghymru:

Beth mae pobl ifanc yn ei feddwl am Dlodi Plant

Dweud eich dweud ar Dlodi Plant

Rhagor o wybodaeth am y Strategaeth Tlodi Plant,  Strategaeth tlodi plant Cymru – https://www.llyw.cymru/strategaeth-tlodi-plant-cymru