Fel rhan o Adolygiad Llywodraeth Cymru o Ariannu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, mae Prifysgol Wrecsam wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau Sioeau Teithiol.
Comisiynwyd yr ymchwil hwn gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i argymhelliad gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Bydd y gwaith yn ein helpu i ddeall sut y caiff gwaith ieuenctid ei ariannu ledled Cymru, a bydd canlyniad yr ymchwil yn sail i greu model cynaliadwy ar gyfer ariannu gwaith ieuenctid wrth symud ymlaen.
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i fudiadau gwaith ieuenctid y sector gwirfoddol gyfrannu at yr ymchwil bwysig hon trwy gyfweliadau a gweithgareddau grŵp ffocws.
Os hoffech fynychu digwyddiad Sir Gaerfyrddin, ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ar 20/11/2023, cliciwch ar y ddolen isod i archebu eich lle drwy Eventbrite: Sioe Deithiol Sir Gaerfyrddin – Carmarthenshire Roadshow Event Tickets, Mon 20 Nov 2023 at 10:00 | Eventbrite
I gael rhestr lawn o ddyddiadau a lleoliadau, lawrlwythwch y PDF isod.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch