Angen Ymddiriedolwyr

Mae grŵp Menter Gymdeithasol Glanyfferi yn sefydliad dielw sy’n darparu mannau cymunedol lleol yn ei ganolbwynt cymunedol yng Nghalon y Fferi,  ac yn cefnogi busnesau lleol.

Rydym am ehangu ein bwrdd ymddiriedolwyr ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig  i ymuno â ni wrth i ni barhau i dyfu.

Rydym yn chwilio’n arbennig am ymddiriedolwr gwirfoddol i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr fel trysorydd. Byddai eich rôl yn cael ei chefnogi gan ein ceidwad llyfrau, sy’n aelod o staff.

Os oes gennych ddiddordeb ac yn teimlo bod gennych rywbeth i’w gynnig i’n  mudiad cymunedol gwledig, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ar  policies@fseg.org.uk neu ffoniwch ar 07828582106