Ail darganfod eich cariad at yr awyr agored!
Cyfle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd,aros yn actif, a chael effaith gadarnhaol yn y gymuned
Dewch i ymuno â’n gwirfoddolwyr cyfeillgar yn Ynysdawela
Mae Gwarchodfa Natur Ynysdawela ym Mrynaman, Rhydaman yn Warchodfa 39 erw sy’n cynnwys coetir hynafol, dôl a phwll bywyd gwyllt. Mae’n gartref i’r Glöyn Byw Brith y Gors prin sydd i’w weld yn hedfan yn ein hardal ddôl yn ystod misoedd yr haf, yn ogystal â bod yn gartref i famaliaid gwarchodedig eraill, planhigion a ffyngau.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am wirfoddolwyr o ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli eu hamser mewn amgylchedd awyr agored yn wythnosol neu’n fisol.
Lawrlwythwch y poster isod neu cysylltwch a Rhea Seren Phillips rsphillips@carmarthenshire.gov.uk