Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Dying Matters, mae Hosbis Skanda Vale yn cynnal digwyddiad rhad ac am ddim ar ddydd Sadwrn yma 11eg Mai o’r enw Mae’r Ffordd Rydyn Ni’n Siarad am Farw yn Bwysig. Yn rhedeg o 10.30 -12.00 bydd yn dechrau gyda ffilm fer o’r awdur a’r meddyg gofal lliniarol Kathryn Mannix; ac yna trafodaeth ar bwysigrwydd iaith glir mewn perthynas â marw. Mae croeso i bawb! https://www.bbc.co.uk/ideas/videos/dying-is-not-as-bad-as-you-think/p062m0xt/player