Wythnos Gwirfoddolwyr 2024

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn wythnos arbennig wedi’i chlustnodi i ddiolch i wirfoddolwyr am bopeth maen nhw’n ei wneud yn eu cymunedau lleol.

Mae 2024 yn nodi 40 mlynedd ers Wythnos Gwirfoddolwyr, a bydd mudiadau ledled y DU yn dathlu rhwng dydd Llun 3 Mehefin 2024 a dydd Sul 9 Mehefin 2024.

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn amser arbennig o’r flwyddyn. Mae’n bwysig cymryd eiliad i gydnabod a diolch i bawb sy’n rhoi o’u hamser i helpu yn eu cymunedau gydag elusennau ac achosion da eraill.

Eleni mae CAVS yn gwneud ymdrech arbennig. 

Ar Ddydd Llun y 3ydd byddwn yn cynnal stondin pop-up yn Morrisons yn Llanelli o 10-12. Dewch i siarad â ni am wirfoddoli! Byddwn yn symud ymlaen i Tesco (dal yn Llanelli) dydd Mawrth 4ydd.

Dysgwch am ein Digwyddiadau Cymunedol yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr yma: Wythnos Gwirfoddolwyr 2024 – Penblwydd Hapus yn 40! – CGGSC~CAVS

Ac yna ar ddydd Gwener mae gennym ein Diwrnod Diolch i Wirfoddoli yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol: https://cavs.org.uk/events/diwrnod-o-ddiolch-i-wirfoddolwyr/?lang=cy