Cyrsiau Hyfforddi AM DDIM

Croeso i lyfryn hyfforddiant CGGSG ar gyfer ail hanner y flwyddyn! Rydyn ni’n falch iawn o gynnig dewis ehangach o gyrsiau ichi er mwyn grymuso a datblygu eich mudiad trydydd sector. Os ydych yn gobeithio gwella eich cefnogaeth i wirfoddolwyr neu sicrhau bod eich tîm wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf a diogelwch bwyd hollbwysig, gallwn gynnig y cyfan!

Yn ogystal â’n cyrsiau wyneb yn wyneb, rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi casgliad o gyrsiau ar-lein fydd ar gael trwy wefan CGGSG. Mae’r sesiynau hyn yn gyflym ac effeithiol, gan ddarparu gwybodaeth hollbwysig mewn cwta ddeg i bymtheg munud.

Y darn gorau? Mae pob un o’n cyrsiau, boed ar-lein neu wyneb yn wyneb, yn gyfan gwbl rhad ac am ddim i fudiadau trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin trwy gydol 2024! Manteisiwch ar y cyfle anhygoel hwn ac archebwch eich lle yn syth.

Cofiwch edrych ar ein gwefan yn rheolaidd i gael diweddariadau a gwybodaeth am gyrsiau newydd. Os na welwch y cwrs rydych ei angen, e-bostiwch ni yn training@cavs.org.uk, ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu.

Allwn ni ddim aros i’ch croesawu a’ch helpu i gyrraedd uchelfannau newydd yn eich mudiad!

Gallwch archebu eich lle yn https://lu.ma/cavs-gtso

Lawrlwythwch y ddogfen YMA