Gwirfoddolwyr Ymatebwyr Lles Cymunedol, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ydych chi eisiau helpu yn eich cymuned leol? Ydych chi gydag amser rhydd i sbarion? Yn meddu ar drwydded yrru iawn?

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddod yn Ymatebwr Lles Cymunedol o fewn Sir Gaerfyrddin gan gynnwys Cydweli, Llandelio, Cross Hands a Hendy-gwyn ar Daf.

Mae gwirfoddolwyr Ymatebwyr Lles Cymunedol (CWR) wedi’u hyfforddi a’u cyfarparu i gefnogi darpariaeth gofal brys Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn eu cymuned. Mae Ymatebwyr Lles Cymunedol wedi’u galluogi i ddarparu arsylwadau clinigol a chymorth lles i gleifion/defnyddwyr gwasanaeth. Bydd Ymatebwyr Lles Cymunedol hefyd yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau achub bywyd sylfaenol a sut i ddefnyddio diffibriliwr allanol awtomatig (AED). Mae hyn yn hanfodol er mwyn cryfhau cyfraniad WAST at wytnwch cymunedol.

Gwirfoddolwyr yw Ymatebwyr Lles Cymunedol yng Nghymru sy’n rhoi o’u hamser sbâr i fynychu galwadau brys priodol a darparu gwybodaeth glinigol gywir a chyfredol i glinigwyr o bell yn ein Canolfannau Rheoli Ambiwlans. Bydd y clinigwr o bell wedyn yn ategu ei asesiad clinigol gyda’r wybodaeth a ddarperir gan yr Ymatebwr Lles Cymunedol ac yn penderfynu ar y cynllun gofal mwyaf priodol ar gyfer y claf hwnnw.

Mae ein Hymatebwyr Lles Cymunedol yn cael eu hysbysu am alwad brys trwy ddyfais symudol llaw o un o’n tair Canolfan Reoli Ambiwlans Rhanbarthol. Bydd ein gwirfoddolwyr yn gyrru i gyfeiriad y digwyddiad, o dan amodau ffordd arferol, a byddant bob amser yn cadw at Reolau’r Ffordd Fawr. Ni fydd ein gwirfoddolwyr yn cael gyrru dan amodau brys na defnyddio goleuadau glas.

Mae rôl yr Ymatebwr Lles Cymunedol yn fenter o dan brosiect Connected Support Cymru, ac yn rhan annatod o’n huchelgais strategol hirdymor sef ‘Sicrhau Rhagoriaeth’. Mae’r Ymatebwyr Lles Cymunedol yn chwarae rhan allweddol i sicrhau bod cleifion yn cael y cyngor a’r gofal cywir, yn y lle iawn, bob tro.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.