Mae Cegin Hedyn yn chwilio am drysorydd!

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mae Cegin Hedyn yn chwilio am drysorydd! Elli di sbario dy amser a dy sgiliau i helpu?

Mae Cegin Hedyn yn Gwmni Buddiant Cymunedol sydd yn darparu prydau maethlon ar gynllun talu-beth-allech-chi yng Nghaerfyddin ddwy waith yr wythnos. Mae’r cwmni hefyd yn rhedeg ardal tyfu cymunedol.

Rydyn ni’n chwilio am rywun gyda chymwysterau cyfrifydd neu gadw llyfrau ac yn ddelfrydol gyda phrofiad fel trysorydd er mwyn hwyluso datblygiad y prosiect. 

Mae’r swydd yn un gwirfoddol a dyali ddim cymryd mwy na cwpwl o oriau yr wythnos o’ch hamser.

Rydyn ni angen rhywun i dalu ein biliau ar y we, monitro a chofnodi gwariant arian grantiau, cadw llygad ar faterion ariannol perthnasol, cysylltu gyda’n cyfrifydd, a mynychu cyfarfodydd misol y bwrdd sydd fel arfer tua awr o hyd. 

Gall y swydd fod mewn person neu o bell. 

Os oes gennych chi ddiddordeb anfonwch ebost a CV byr at enquiries@ceginhedyn.org.uk