Mae’r Fforwm Adran 16 yn ofyniad statudol o dan Ran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’n ymwneud â hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau ar draws y sector gofal.
Mae ei ddiben yn ddeublyg:
- Trawsnewid gofal i gyflawni mwy o les a chynaliadwyedd.
- Ail-gydbwyso’r farchnad gofal i sicrhau mwy o amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaethau.
Mae’r fforwm wedi sicrhau cronfa fechan o gyllid (£10,000) drwy’r Hyb Cydgysylltu Arloesedd Rhanbarthol i gefnogi ei waith ar drawsnewid ac ail-gydbwyso’r modd y darperir gofal ar draws gorllewin Cymru. Mae’r cyllid hwn ar gael i fudiadau cymunedol neu wirfoddol sydd wedi’u lleoli ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro.
Croesewir cynigion ar gyfer unrhyw brosiect sy’n hyrwyddo:
- Datblygu mentrau cymdeithasol i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;
- Datblygu sefydliadau neu drefniadau cydweithredol i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;
- Cynnwys personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i’w darparu ar eu cyfer yn y gwaith o gynllunio a gweithredu’r ddarpariaeth honno;
- Argaeledd yn ei faes gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol gan sefydliadau trydydd sector (p’un a yw’r sefydliadau’n fentrau cymdeithasol neu’n sefydliadau cydweithredol ai peidio).
Rhaid i unrhyw gynnig hyrwyddo o leiaf un o’r uchod ar draws rhanbarth gorllewin Cymru (Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro). Gallai fod yn syniad newydd sbon nad ydych wedi’i ddechrau eto neu’n ddarn o waith sy’n bodoli eisoes sydd angen hwb ariannol i’w gwblhau. Y naill ffordd neu’r llall, rhaid i’r cynnig fodloni amcanion polisi adran 16 fel yr amlinellir uchod.
Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 04 Tachwedd 2024.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch James Sanders neu ffoniwch ef ar 07594 895695.