Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) CAVS am 10yb ar Ddydd Gwener 13eg Rhagfyr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Caerfyrddin SA32 8HN. Archebwch eich lle trwy glicio ar https://lu.ma/bwozfg5r
Yn ogystal â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CAVS, mae gennym amserlen orlawn i ddathlu’r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin – gan gynnwys Gwobrau Gwirfoddolwyr CAVS 2024. Os hoffech enwebu gwirfoddolwr neu ymddiriedolwr ar gyfer gwobr, cwblhewch y ffurflen atodedig a’i dychwelyd i ni ddim hwyrach na 10am ddydd Mercher 04 Rhagfyr 2024.
Edrychwn ymlaen at eich gweld am ddiwrnod gwych ar 13 Rhagfyr!