
Gall grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin wneud cais am gyllid i gefnogi lleoedd diogel a chynnes i drigolion dreulio amser yn ystod y gaeaf hwn.
Amcan y gronfa yw cefnogi mannau diogel a chynnes o fewn y gymuned leol y gallai pobl fynd iddynt ar draws Sir Gaerfyrddin y gaeaf hwn (2024-25). Gellir defnyddio cyllid i sefydlu/ailsefydlu mannau ac ychwanegu gwerth at y rhai sydd eisoes mewn bodolaeth, gan gefnogi trigolion Sir Gaerfyrddin yn economaidd ac yn gymdeithasol, yn ogystal â’u llesiant.
Bydd y rhain yn fwy na mannau cynnes yn unig i’r unigolion hyn, byddant yn llefydd dymunol, yn agored a chynhwysol, ac ar gael i bawb yn y gymuned eu defnyddio a chael cefnogaeth ganddynt. Byddant hefyd yn darparu cymorth ymarferol. Dylai’r mannau hyn gyfrannu at hwyluso a galluogi cymunedau a thrigolion i leihau tlodi ac unigrwydd ledled Sir Gaerfyrddin.
Gall sefydliadau wneud cais am uchafswm o £2,500 ac isafswm o £1,000.
Dyddiad cau cyflwyno – 12pm ar 27 Ionawr 2025. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.