
Mae rhaglen grant “Cefnogi Cymunedau Gwledig” y Gronfa Cefn Gwlad Frenhinol nawr ar agor!
Mae’r rhaglen grant newydd, DU gyfan gan yr RCF bellach ar agor ar gyfer ceisiadau ac mae gan sefydliadau hyd at 21 Chwefror 2025 i wneud cais am gyllid i greu newid diriaethol yn eu cymuned. Mae rhaglen grantiau’r RCF yn canolbwyntio ar gefnogi prosiectau sy’n helpu i gadw pobl ifanc yng nghefn gwlad, rhoi hwb i gymunedau gwledig, cynyddu cynaliadwyedd amgylcheddol a meithrin gwydnwch brys mewn ardaloedd gwledig.
Yng Nghymru, mae 21% o’r boblogaeth yn byw mewn pentrefi bach neu bentrefannau gyda phoblogaeth o lai na 5,000. Mae diboblogi gwledig, yn enwedig pobl iau, yn parhau i fod yn fygythiad mawr i’r cymunedau hyn ledled Cymru a’r DU.
Rhaid i brosiectau gael eu harwain gan y gymuned a bydd angen iddynt ddangos eu bod yn gwrando’n astud ar, ac yn deall, anghenion eu cymuned. Rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer y rhaglen ddiweddaraf hon fod yn sefydliad sydd â chyfansoddiad priodol, a arweinir gan y gymuned, wedi’i leoli mewn ardal wledig gyda throsiant o lai na £500,000. I wneud cais, bydd angen i sefydliadau anfon fideo byr a chwblhau ffurflen ‘Mynegi Diddordeb’ syml ar wefan yr RCF. Yn y fideos hyn dylai ymgeiswyr roi gwybod i’r RCF pwy ydyn nhw, beth maen nhw’n bwriadu ei wneud, pam mae angen eu prosiect a sut y bydd yn helpu eu cymuned. Dylai ymgeiswyr hefyd nodi sut mae eu prosiect yn bodloni blaenoriaethau ariannu’r RCF.