Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig

Mae cyllid ychwanegol wedi’i ddyrannu i Sir Gâr ar gyfer estyniad i UKSPF am y cyfnod 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026.

Nod y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy yw darparu’r cymorth angenrheidiol i helpu i gryfhau gwead cymdeithasol cymunedau, gan feithrin balchder bro yn ogystal â sicrhau budd economaidd uniongyrchol a/neu anuniongyrchol.

Bydd y prosiect yn darparu cymorth ariannol trwy gyflawni cynllun grant gwerth £1.7m a fydd yn cefnogi buddsoddiadau cyfalaf a refeniw. Mae trothwy’r grant rhwng £10,000 a £150,000. Yr uchafswm sydd ar gael ar gyfer prosiectau refeniw – £75,000; yr uchafswm sydd ar gael ar gyfer prosiectau cyfalaf – £150,000. Os oes gennych gymysgedd o wariant cyfalaf a refeniw yr uchafswm grant sydd ar gael yw £150,000.

Bydd y grant yn canolbwyntio ar y themâu canlynol sydd wedi’u nodi fel blaenoriaeth fel rhan o Gynllun Buddsoddi Strategol y Sir.  

  • Trechu Tlodi
  • Economi Gylchol
  • Llesiant / Hamdden
  • Mynediad at Wasanaethau
  • Yr Amgylchedd a Gwyrdd
  • Twristiaeth, Diwylliant / Treftadaeth
  • Ymgysylltu Cymunedol

 

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais a dyddiadau cau, ewch i wefan Cyngor Sir Gâr.