Cyfleoedd i Wirfoddoli – Sandy Bear

Elusen profedigaeth Gymreig yw Sandy Bear sy’n cefnogi plant a phobl ifanc, 0-25 oed, sydd wedi cael profedigaeth neu sy’n wynebu profedigaeth. Rydym yn gweithio ledled Cymru yn cynnig cymorth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y canlyniadau gorau ar ôl i rywun y maent yn ei garu farw.


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr yn eich ardal i helpu gyda:
· Cefnogi ein Tîm Darparu Gwasanaeth gydag ymweliadau cartref
· Helpu mewn digwyddiadau cymunedol lleol a Chodi Arian
· Cynorthwyo ein Tîm Profedigaeth mewn Grwpiau Cefnogi Teuluoedd

Pam gwirfoddoli i Sandy Bear?
· 2 ddiwrnod o hyfforddiant pwrpasol ar gefnogi plant a phobl ifanc mewn profedigaeth
· Cefnogaeth reolaidd gan y Tîm
· Trwy gefnogi Sandy Bear, mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr gan alluogi’r elusen i weithio gyda llawer mwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd pan fyddant ein hangen fwyaf.

Diwrnodau Hyfforddi Gwirfoddolwyr:

Diwrnod 1 – 5ed Mawrth Caerfyrddin (CAVS)
Diwrnod 1 – 6 Mawrth Abertawe
Dydd 1 – 13eg Mawrth Sir Benfro
Diwrnod 2  – 19eg Mawrth Caerfyrddin (CAVS)
Diwrnod 1 a 2  – 26 27 Mawrth Y Fenni – Canolfan Gwybodaeth Lles

Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle ar eich diwrnodau hyfforddi gwirfoddolwyr AM DDIM cysylltwch â  sallie.hobbs@sandybear.co.uk

Download our Volunteer posters below:

Volunteers needed (dates poster – 11 x 14 in)

Volunteers needed (Poster – 11 x 14 in)